Rwyt ti yma Cartref Cestyll a Gerddi Sir Benfro

Mae'n debyg y bu castell ar 51 o safleoedd ar draws Sir Benfro felly mae digonedd o ddewis o gadarnleoedd enwog i'r rhai sy'n ymweld â'r sir.

Castell Carew

Castell Carew

Os oes gwir ddiddordeb gennych mewn hanes, ewch i Gastell Caeriw. Gwnaeth archeolegwyr ddarganfod tystiolaeth o gaer sylweddol o Oes yr Haearn yma a'r gred yw efallai ei fod yn gartref i setliad o'r Oesoedd Tywyll. Mae crochenwaith Rhufeinig a gloddiwyd yng Nghaeriw yn ychwanegu at ei hanes diddorol. Yn oddeutu 1100, derbyniodd Gerald de Windsor y maenordy fel rhan o'i waddol priodas â Nest sef y fenyw brydferthaf yng Nghymru. Roedd ei amddiffynfa siŵr o fod wedi cael ei hadeiladu allan o bridd a pholion pren; yn ddiweddarach, adeiladwyd castell allan o gerrig ac yn y 16eg ganrif, trawsnewidiwyd cadarnle canoloesol Caeriw yn faenor Elisabethaidd. Mae preswylwyr presennol y Castell, sef poblogaeth o ystlumod, wedi golygu ei fod wedi'i ddynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

Yn ôl y sôn, mewn cadarnle gwledig arall sef Cilgerran, herwgipiwyd Nest gan Owain ap Cadwgan gan ymdebygu i hanes 'Helene o Droia'. Lladdodd Gerald Owain chwe blynedd yn ddiweddarach. Roedd yr artist JMW Turner wrth ei fodd â Chastell Cilgerran a phaentiodd y lle sawl gwaith.

Bydd y rhai sy'n dwlu ar erddi yn mwynhau yng Ngardd Coetir Colby sydd â charped o glychau'r gog hardd yn y gwanwyn ac arddangosfeydd arbennig o rododendronau, camelias ac asaleâu yn yr haf. Os ydych yn dwlu ar flodau a chadarnleoedd, ewch am dro i Picton sef maenor amddiffynedig a chastell canoloesol â phedwar deg erw o goetir yn cynnwys coed derw 300 oed a gerddi muriog. I'r rheiny sydd eisiau cael gwledd i'r llygaid go iawn, beth am ymweld â Llynnoedd Lil├»au Bosherston ym mis Mehefin pan maent wedi'u gorchuddio â blodau arnofiol.