English

Rwyt ti yma Cartref Daith Cerrig Beddi Arwyr Chwedlonol Bae Abertawe

Ewch i archwilio’r rhanbarth lle mae archryfelwr Llychlynnaidd, ci arwrol, sant a achubwyd gan wylanod a fforiwr Arctig oll yn gorwedd...

1. Y BRENIN ARTHUR

(c2,500BC)
Map...

Roedd y Brenin Arthur allan yn marchogaeth yn Sir Gaerfyrddin pan ddaeth o hyd i garreg fach yn ei esgid, a daflodd ar draws y foryd. Wrth iddi chwyrlïo drwy’r awyr, fe dyfodd y garreg yn fwy ac yn fwy, nes iddi lanio, gan aros ar ben Cefn Bryn. Mae hon yn un o lawer o chwedlau sy’n ymwneud â Charreg Arthur, neu Maen Ceti, beddrod Neolithig sy’n dyddio o 2500 CC, ac un o’r safleoedd cyntaf i gael eu gwarchod dan y Ddeddf Henebion yn ôl ym 1882. Mae llawer o storïau dirgel eraill:: dywedir bod y capfaen wedi’i hollti gan gleddyf y Brenin Arthur, Caledfwlch, neu gan Ddewi Sant, nad oedd yn hoff o’i gysylltiadau paganaidd yn ôl pob sôn. Ac yn ddiddorol ddigon, pan fo lleuad llawn, mae marchog ar geffyl yn dod i’r golwg o dan y garreg, ac yn anelu ar draws Cefn Bryn tuag at bentref Llanrhidian - dywedir mai’r Brenin Arthur ei hun yw’r ddrychiolaeth hynod. Mae llwybr troed sy’n arwain at y gofeb Neolithig yn hygyrch o’r prif lwybr ar draws Cefn Bryn.

Y BRENIN ARTHUR

BRIG ↑

2. SANT CENNYDD

(c500)
Map...

Eglwys Sant Cennydd, Llangennydd, Gŵyr, SA3 1HU.
Yn ôl y chwedl, ganed Sant Cennydd, bachgen o Benrhyn Gŵyr, yn y chweched ganrif gyda choes ddiffrwyth, cafodd ei ollwng yn rhydd mewn basged ar aber Llwchwr, ei achub gan wylanod - a’i fagu gan angylion. Ar ôl tyfu sefydlodd briordy Sant Cennydd, lleoliad Eglwys Sant Cennydd bellach, yng nghanol pentref bach Llangennydd. Yma, gallwch weld y llechen gerfiedig a oedd yn nodi bedd y sant yn ôl pob sôn. Mae hefyd yn gartref i’r Dolly Mare, delw garreg o farchog ar geffyl, y dywedir ei fod yn perthyn i’r teulu de la Mere, a oedd yn berchen ar diroedd yn yr ardal gyfagos.

SANT CENNYDD

BRIG ↑

3. SWEYNE YR ARCHRYFELWR

(tua 1000au) Cyfeirnod grid Arolwg Ordnans SS 4209 8982 (OS Explorer 164 Gower) Map...

Sweyne’s Howes, Rhossili Sweyne Forkbeard oedd enw archryfelwr Llychlynnaidd a chyn-frenin Denmarc a Lloegr a oedd yn byw ac a fu farw yn yr ardal o amgylch Rhossili ar ddechrau’r 11eg ganrif -ef hefyd a roddodd ei enw i dref Abertawe yn Saesneg, sef Sweyne’s Ey, neu Tir Sweyne. Mae Sweyne’s Howes, dwy siambr gladdu, neu gromlech, hynafol ar Dwyni Rhossili yn sicr fe pe baent wedi’u henwi ar ei ôl, er bod y cofadeiliau megalithig yn dyddio o gyfnod a oedd filoedd o flynyddoedd cyn ei amser ef ac ni wyddys a yw’n gorffwys yno. Er ei bod bellach yn adfail, y siambr ogleddol sydd wedi cael ei chadw yn y cyflwr gorau, ac mae’r cromlechi’n atgof hiraethus am y modd y gadawodd ein cyndeidiau eu hôl ar ein tirwedd. Gellir mynd at y safle ar hyd llwybrau troed sy’n mynd tua’r gogledd o Rossili, yn agos at forlin ysblennydd Gŵyr.

SWEYNE THE WARLORD

BRIG ↑

4. EDGAR EVANS

(1876-1912)

Eglwys y Santes Fair, Rhossili SA3 1PL. Map...
Ac yntau wedi’i eni ym Mwthyn y Ship yn Rhossili, pentref bach ym mhen de-orllewinol Penrhyn Gwy, roedd yr Is-swyddog Edgar Evans yn aelod o Alldaith Terra Nova Robert Falcon Scott i Begwn y De ym 1911-1912. Fe wnaeth y grŵp o bump o wŷr a ddewiswyd i fynd i’r Pegwn gyrraedd eu nod ar 17 Ionawr 1912, ond yn anffodus bu farw pob un ohonynt wrth iddynt geisio dychwelyd i’w gwersyll cychwyn. Trefnodd gweddw Evans i blac gael ei osod er cof amdano yn Eglwys y Santes Fair, Rhossili. Mae Cofeb Edgar Evans, llechen farmor wen fechan, yn cynnwys yr arysgrif: 'To seek, to strive, to find and not to yield.' Mae Rhossili ar arfordir gorllewinol gwyllt Penrhyn Gŵyr, a hon oedd yr ardal gyntaf yn y DU i gael ei dynodi’n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.

EDGAR EVANS

BRIG ↑

5. SWANSEA JACK

(1930-1937)

Plac Coffa Swansea Jack, Heol y Mwmbwls, Brynmill SA2 0AY (Cod post y 360 Café gerllaw). Map...
Roedd adargi du o’r enw Swansea Jack, a oedd yn byw yn ardal Doc y Gogledd / Afon Tawe o Abertawe gyda’i feistr, William Thomas, wrth ei fodd yn plymio i mewn i’r dŵr i achub unrhyw un a oedd mewn trybini. Yn ystod ei oes, achubodd 27 o bobl, gan ennill llawer o wobrau, gan gynnwys coler arian a dau fedal efydd gan y Gynghrair Genedlaethol Amddiffyn Cŵn, a adwaenir bellach fel yr Ymddiriedolaeth Cŵn. Yn 2000, cafodd ei enwi’n Gi’r Ganrif gan Newfound Friends of Bristol, sy’n hyfforddi cŵn domestig mewn technegau achub o’r dŵr. Aeth Swansea Jack i’r fasged cŵn fawr yn y nen, ac yntau’n saith mlwydd oed, ym mis Hydref 1937. Ei orffwysfa yw Cae Rygbi Sain Helen, Abertawe, ac mae ei gofeb, y talwyd amdani â thanysgrifiad cyhoeddus, gerllaw ar y Promenâd .

SWANSEA JACK

BRIG ↑