English

Rwyt ti yma Cartref Daith Cerrig Beddi Arwyr Chwedlonol Port Talbot Castell Nedd

Ewch i archwilio rhanbarth lle mae gan arwyr a dihirod fel ei gilydd eu gorffwysfeydd...

1. DIC PENDERYN

(1808-1831)

Eglwys y Santes Fair, Aberafan, Port Talbot SA12 6DZ. Map...
Ac yntau wedi’i eni ger Port Talbot, roedd y labrwr a’r glöwr Dic Penderyn, neu Richard Lewis i roi ei enw genedigol iddo, yn rhan o Wrthryfel Merthyr ym mis Mehefin 1831, penllanw blynyddoedd o anniddigrwydd ymhlith dosbarth gweithiol mawr. Cafodd Penderyn ei arestio a’i gyhuddo o drywanu milwr â bidog y cafodd afael arno (goroesodd y milwr). Nid oedd pobl Merthyr Tudful, lle’r oedd yn byw, yn credu bod y gŵr 23 oed yn euog ac fe lofnododd 11,000 o bobl ddeiseb, ond fe’i crogwyd y tu allan i garchar Caerdydd ar 13 Awst. Ar ôl ei farwolaeth, cafodd Penderyn ei drin fel Merthyr ledled Cymru. Fe’i claddwyd ym mynwent Eglwys y Santes Fair ym Mhort Talbot, lle mae croes wedi’i hysgythru’n nodi ei orffwysfa. Ddeugain mlynedd yn ddiweddarach, cyfaddefodd Cymro a oedd yn byw yn UDA mai ef oedd wedi trywanu’r milwr. Mae cefnogwyr yn ymgyrchu dros bardwn i Penderfyn.

DIC PENDERYN

TOP ↑

2. ROBERT SCOTT

(Anhysbys-1898)

Castell Margam, Parc Gwledig Margam, Port Talbot SA13 2TJ. Map...
Ym 1898, ac yntau wedi’i arfogi â dim byd ond ffon, roedd y ciper Robert Scott yn cadw golwg am botswyr yng Nghoedwig Margam pan ddaeth ar draws Joseph Lewis, gŵr treisgar a oedd wedi dianc o’r fyddin, a’i herio. Taniodd Lewis y ddwy faril a oedd yn ei ddryll at ben y ciper, gan ei ladd. Ar ôl cael ei arestio a’i gael yn euog o’r trosedd, crogwyd Lewis a daeth mwy na 3,000 o bobl ynghyd yn Abertawe i’w wylio’n cael ei ddienyddio. Claddwyd gweddillion marwol Robert Scott ym Mynwent Abaty Margam ond dywedir yn aml nod ei ysbryd wedi cael ei weld yn camu i fyny’r grisiau Gothig sy’n arwain at fynedfa Castell Margam. Dywedir bod yr ysbryd yn gandryll ac yn cerdded yn bwrpasol.

ROBERT SCOTT

TOP ↑

3. ROBERT, HENRY AND ELIZABETH

(Dyddiadau amrywiol)

Amgueddfa Cerrig Margam, Margam, Port Talbot SA13 2TA. Map...
A hithau wedi’i lleoli mewn ysgoldy eglwysig cynnar, mae Amgueddfa Cerrig Margam yn cynnwys nifer o gerrig beddi a chofgolofnau Cristnogol cynnar pwysig. Mae’r rhan fwyaf o gerrig beddi’n rhoi llythrennau cyntaf syml, ond mae enwau ar dair ohonynt: Robert, Abbot of Rievaulx (Rhif 21, 1307); Henry, the 9th Abbot (Rhif 23, y 14eg ganrif) ac arysgrif rhannol yn Gymraeg ‘...EV GORWEDD GORPH ELI[ZABETH] ...HON V GLADDWYD, (Rhif 25, tua 1600). Yn y cyfamser, daeth colofn garreg a adwaenir hefyd fel Carreg Lythyrenog o domen gladdu gynhanesyddol. Yn ôl llên gwerin byddai unrhyw un a ddarllenai’r arysgrif yn marw’n fuan wedyn, felly efallai yr hoffech osgoi honno.

ROBERT, HENRY AND ELIZABETH

TOP ↑

4. DR ARCHIBALD ALEXANDER BRODIE

(1801-1851)

Capel Ebeneser, Glyn-nedd SA11 5NR. Map...
Ar ganol y 19eg Ganrif, roedd colera yn rhemp ym Mhort Talbot ac fe frwydrodd y Dr Archibald Alexander Brodie yn ddiflino i achub ei gleifion cystuddiedig. Yn anochel efallai, cafodd ef ei hun ei heintio a bu farw o’r clefyd ym 1851, ac yntau’n 50 oed. Mae carreg fedd drawiadol sy’n deyrnged cymwys i’r meddyg anhunanol i’w gweld yng Nghapel Ebeneser, Glyn-nedd, tref, cymuned a ward etholiadol fechan ar lan yr Afon Nedd. Mae’r garreg fedd unigryw i’w gweld o’r palmant hyd yn oed.

DR ARCHIBALD ALEXANDER BRODIE

TOP ↑

5. MARGARET WILLIAMS

(1796-1822)

Carreg Lofruddiaeth Tregatwg, Eglwys Plwyf Catwg Sant, Tregatwg, Castell-nedd SA10 8AP. Map...
Ar fore’r 14eg o Orffennaf 1822, daethpwyd o hyd i gorff Margaret Williams, menyw 26 oed, mewn ffos yn Nhregatwg, a’i gwddf yn gleisiau i gyd. Roedd wedi cael ei thagu’n giaidd. A hithau’n ddibriod - ac yn feichiog - roedd Margaret yn forwyn fach yng nghartref gŵr lleol, ac roedd sïon mai meistres ei fab oedd hi. Mae carreg lofruddiaeth ym mynwent Eglwys Plwyf Catwg Sant, Tregatwg, Castell-nedd, yn nodi gorffwysfa’r fenyw ifanc druan o Gaerfyrddin - roedd cerrig o’r fath, sy’n aml yn cynnwys cyfrif o drasiedi teuluol, yn aml wedi’u bwriadu i bigo cydwybod llofrudd a oedd wedi mynd heb ei ganfod. Nid yw’n syndod mai’r mab oedd yr un a oedd fwyaf dan amheuaeth, ond ni phrofwyd unrhyw beth. Nid oedd gosod y garreg fel ei bod yn wynebu ei gartref yn gallu ei annog i gyfaddef hyd yn oed, ac yn ddiweddarach hwyliodd am America.

MARGARET WILLIAMS

TOP ↑