English

Rwyt ti yma Cartref Daith Cerrig Beddi Arwyr Chwedlonol Sir Gaerfyrddin

Mae emynwr, breninladdwr a hyd yn oed dewin yn wylofain oll wedi cael gorffwysfeydd o fewn ffiniau Sir Gaerfyrddin...

1. DYLAN THOMAS

(1914-1953)

Gorffwysfa: Mynwent Eglwys Sant Martin, Talacharn SA33 4QD. Map...
Bu farw Dylan Thomas, y bardd, awdur a darlledwr o Gymru ac yntau ddim ond yn 39 oed, ar 9 Tachwedd 1953, yn yr Unol Daleithiau. Yn ôl pob sôn, ei eiriau olaf oedd- 'I've had 18 straight whiskies... I think that’s the record'. Yn ddiddorol, ni ddatgelwyd ymgriethiad yr afu yn y post mortem. Daethpwyd â’i gorff yn ôl i Dalacharn, y dref yn Sir Gaerfyrddin lle bu ef a’i wraig Caitlin yn byw yn ystod eu bywyd priodasol cynnar. Y dref hefyd oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer y dref ddychmygol Llareggub (mae darllen yr enw yn ôl yn rhoi disgrifiad angharedig), y lleoliad ar gyfer ei waith enwocaf, Under Milk Wood. Mae Thomas wedi’i gladdu ym mynwent orlif Eglwys Sant Martin, ac mae’r bedd wedi’i nodi â chroes wen blaen. Claddwyd Caitlin gydag ef ym 1994. Gall ymwelwyr weld amgueddfa The Boathouse, Cartref Dylan Thomas hefyd, lle’r oedd y cwpl yn byw, ynghyd â sied ysgrifennu Thomas a’i hoff le ar gyfer llymeitian, Gwesty Browns.

DYLAN THOMAS

TOP ↑

2. SIR RHYS AP THOMAS

(1449-1525)

Eglwys San Pedr, Caerfyrddin SA31 1GW. Map...
Mae’n 1485, ac ym mrwydr fwyaf tyngedfennol Rhyfel y Rhosynnau mwy na thebyg, mae lluoedd a oedd yn dryw i dai Iorc a Lancastr yn sefyll mewn rhesi ar Faes Bosworth. Ar ddiwedd y frwydr, Harri Tudur, a goronwyd yn Harri VI yn ddiweddarach, oedd yn fuddugol a gorweddai Richard III yn gelain, ac yntau wedi’i daro gan ffonfwyell. Dywedir mai Rhys ap Thomas oedd y gŵr a oedd yn dal yr arf hwnnw, ac yntau yn ôl y bardd Guto Glyn wedi 'lladd y baedd, eilliodd ei ben', sy’n gyfeiriad at arfbais Richard III. Cafodd Thomas ei urddo yn farchog am ei deyrngarwch, a bu farw flynyddoedd yn ddiweddarach ym Mhriordy Sant Ioan, Caerfyrddin. Fe’i claddwyd yno’n wreiddiol, ond fe’i symudwyd i Eglwys San Pedr yn ystod Diwygiad Harri VIII. Mae bedd Syr Rhys, gyda delw ohono ef ei hun ar ei ben, yn olygfa ysblennydd.

SIR RHYS AP THOMAS

TOP ↑

3. MYRDDIN

(Dim ond chwedl... ynteu?)

Gorffwysfa: Bryn Myrddin, ger Abergwili, Caerfyrddin SA32 7ER. Map...
Mae Myrddin, ffigwr chwedlonol mewn nifer o hen storïau, yn fwyaf adnabyddus fel cyfaill dewinaidd y Brenin Arthur a gynhaliai ei lys enwog yng Nghamlod ac a oedd yn ffigwr gweddol ddirgel ei hun, o’r 5ed Ganrif o bosibl. Dywedir bod y swynwr, a aned yng Nghaerfyrddin, wedi mynd i’w dranc pan syrthiodd mewn cariad gyda helwraig o’r enw Niviane, merch brenin Northumberland, a hithau’n gwrthod ei gynigion trwy ddwyn ei swyn a’i garcharu mewn ogof yn ddwfn ym Mryn Myrddin. Fodd bynnag, efallai nad yw Myrddin wedi marw - dywedir bod modd clywed ei grïau a sŵn cadwyni’n cloncian ar rai nosweithiau tywyll ac, un diwrnod, pan fydd ar ddynoliaeth angen ei gymorth eto, y bydd yn cael ei ryddhau. Gallwch ddringo i ben y bryn, gan wrando am sŵn wylofain goruwchnaturiol, ac yna ymweld â Chanolfan Bryn Myrddin, Fferm Alltyfyrddin.

Myrddin

TOP ↑

4. ADELINE COQUELIN

(1816-1828)

Eglwys Sant Illtud, Pen-bre SA16 0AQ . Map...
Beth allai fod yn cysylltu Napoleon Bonaparte a phentref Pen-bre, sy’n edrych dros Fae Caerfyrddin rhwng Porth Tywyn a Chydweli? Wel, ym mynwent Eglwys Sant Illtud fe ddewch chi o hyd i orffwysfa Adeline Coquelin, nith gwraig gyntaf Napoleon, Josephine de Beauharnais, a ysgarodd ym 1810. Ym 1828, a hithau’n 12 mlwydd oed yn unig, roedd Adeline yn teithio ar Le Jeune Emma, a oedd yn mynd o India’r Gorllewin i Ffrainc, pan ymddrylliodd ar Draeth Cefn Sidan mewn niwl trwchus gan ladd 13 o’r 19 o bobl a oedd ar ei bwrdd, gan gynnwys tad y ferch. Cafodd cargo’r llong, sef siwgr, perlysiau, coffi, cotwm, sinsir a rỳm eu ‘hachub yn answyddogol’ heb unrhyw oedi gan y bobl leol. Mae’r eglwys ei hun, sy’n adeilad rhestredig Gradd I, yn dyddio o’r 1100au ac mae’n werth ymweld â hi.

ADELINE COQUELIN

TOP ↑

5. WILLIAM WILLIAMS PANTYCLEYN

(1717-1791)

Mynwent Llanfair-ar-y-bryn, ger Llanymddyfri SA20 0ED. Map...
Os ydych chi erioed wedi cael eich syfrdanu gan leisiau miloedd o gefnogwyr rygbi Cymru yn canu Bread of Heaven yn ystod gêm yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd, gallwch ddiolch i’r emynwr William Williams Pantycelyn. Ac yntau’n un o emynwyr enwocaf Cymru ac yn un o arweinwyr allweddol y Diwygiad Methodistaidd yng Nghymru yn y 18fed Ganrif, ef a ysgrifennodd yr emyn, sef Guide Me, O Thou Great Jehovah, i roi ei enw swyddogol iddo. Am lawer o’i fywyd, roedd y Parch. Williams yn byw ym mhlwyf Llanfair-ar-y-bryn, ger Llanymddyfri. Bu farw yno ym 1791, yn 74 mlwydd oed, ac mae wedi’i gladdu yn y fynwent lle mae carreg fedd enfawr yn nodi ei fedd. Mae capel coffa ceinwych wedi’i enwi ar eiôl yn Llanymddyfri hefyd.

WILLIAM WILLIAMS PANTYCLEYN

TOP ↑