English

Rwyt ti yma Cartref Daith Cerrig Beddi Arwyr Chwedlonol Sir Benfro

Ewch i archwilio gorffwysfeydd sant, arwres â phicwarch, protestiwr mewn cuddwisg a morleidr o Gymru...

1. DEWI SANT

(tua 500-tua 589)

St David’s Shrine, St David’s Cathedral, St Davids SA62 6RD. Map...
Roedd Dewi Sant, nawddsant Cymru, yn esgob o Gymru a ddaeth yn Esgob Mynyw (Tyddewi bellach) yn ystod y 6ed ganrif. Yn ôl y chwedl, fe adferodd olwg Sant Pawlinws ac yn ystod brwydr yn erbyn y Sacsoniaid, fe gynghorodd ei filwyr i wisgo cennin yn eu hetiau fel bod modd gwahaniaethu rhyngddynt hwy a’u gelynion. Ni fwytai ond bara, perlysiau a llysiau, ni yfai ond dŵr, ac fe’i claddwyd yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi. Datganodd y Pab Calixtus II yn y 12fed ganrif fod tair pererindod at ei feddrod gystal ag un i Gaersalem. Cafodd creiriau Dewi Sant a Sant Iwstinian eu cadw mewn blwch cludadwy ar fonyn carreg y beddrod ond fe’u symudwyd oddi yno gan Esgob Protestannaidd pybyr yn yr 16eg Ganrif. Ar bwys beddrod Dewi Sant mae bedd Edmwnd Tudur, tad Harri VII, y brenin cyntaf o blith y Tuduriaid.

DEWI SANT

TOP ↑

2. JEMIMA NICHOLAS

(tua 1750-1832)

Eglwys y Santes Fair, Abergwaun SA65 9AU. Map...
Ym 1797, glaniodd 1,200 o filwyr La Legion Noire, a oedd yn rhan o’r Fyddin Weriniaethol Ffrengig ym Mhwynt Carregwastad, ychydig filltiroedd i’r gorllewin o Fae Abergawun, yn ystod ymgyrch a ddaeth i gael ei adnabod fel yr Ymosodiad Olaf ar Brydain. Cafodd milisia ac iwmyn lleol eu cynnull ar frys i wrthsefyll yr ymosodiad yn Abergwaun, gyda chymorth sifiliaid teyrngar. Yn eu plith roedd yr aruthrol Jemima Nicholas, menyw 47 oed a gipiodd 12 o filwyr Ffrengig ar ei phen ei hun a hithau wedi’i harfogi â dim byd ond picwarch. Gellir gweld carreg fedd Jemima yn agos at Eglwys y Santes Fair yng nghanol y dref. Mae brithlen ddifyr 30 metr o hyd sy’n darlunio’r Ymosodiad Olaf ac a grëwyd i nodi deucanmlwyddiant y digwyddiad ym 1997 yn cael ei harddangos yn Neuadd y Dref, Abergwaun.

JEMIMA NICHOLAS

TOP ↑

3. THOMAS REES

(tua 1806-1876)

Capel Bethel, Mynachlog Ddu, Clunderwen SA66 7RX. Map...
Roedd y gŵr mawr pengoch Thomas Rees, sef Twm Carnabwth fel y’i gelwid, yn 33 pan wisgodd fel menyw ac arwain ymosodiad ar y dollborth newydd yn Efailwen ym 1839. Hon oedd y weithred gyntaf yn Nherfysgoedd Beca, cyfres o brotestiadau gan ffermwyr a gweithwyr amaethyddol yng Nghymru yn erbyn talu tollau i ddefnyddio’r ffyrdd. Ymddengys fod ei guddwisg wedi gweithio, gan na chafodd ei gyhuddo byth, ac yntau wedi byw nes oedd yn 70. Gallwch weld ei fedd y tu allan i Gapel Bethel, a oedd yn annwyl iddo, ac sydd bellach yn adeilad rhestredig Gradd II, ym Mynachlog Ddu. Ar ei garreg fedd mae’r arysgrif canlynol: 'Nid oes neb ond Duw yn gwybod/ Beth a ddigwydd mewn diwrnod. Wrth gyrchu bresych at fy nginio, / Daeth angau i fy ngardd i'm taro.'

THOMAS REES

TOP ↑

4. BARTI DDU

(1682-1722)

Llawr Pentre Casnewydd Bach, ger Abergwaun SA62 5TD. Map...
Pwy oedd morleidr mwyaf llwyddiannus y byd? Bartholomew Roberts, neu Barti Ddu fel yr oedd yn cael ei adnabod, morleidr o Gymru a oedd yn ymosod ar longau oddi ar arfordir yr Americas a Gorllewin Affrica rhwng 1719 a 1722, gan fynd â thros 470 yn ei yrfa. Mae hyd yn oed yn cael ei grybwyll yn y nofel Treasure Island gan Robert Louis Stevenson. Ac yntau’n fab i ffermwr o Gasnewydd Bach, ger Abergwaun, roedd yn adnabyddus am ei wedd dywyll a’i ddillad cain, gyda 'gwasgod a llodrau damasg rhuddgoch coeth, pluen goch yn ei het, cadwyn aur o gwmpas ei wddf, gyda chroes ddiemwnt yn sownd ynddi, cleddyf yn ei law, a dau bâr o bistolau wedi’u taflu dros ei ysgwyddau', yn ôl A General History of the Pyrates (1724). Mae’n debyg ei fod yn yfed te yn lle rym, yn cynnal gwasanaethau eglwysig ar ddec ei long a byth yn ymosod ar longau eraill ar ddydd Sul. Roedd yn cael ei adnabod gan y Ffrancwyr fel 'Le Joli Rouge' neu Jolly Roger ac ef oedd y morleidr cyntaf y gwyddys iddo ddefnyddio’r faner penglog ac esgyrn croes. Lladdwyd Barti Ddu ar 10 Chwefror 1722 wrth i’w long, Royal Fortune frwydro yn erbyn un o longau’r Llynges Frenhinol, HMS Swallow. Mae Barti Ddu yn cael ei gofio yng Nghasnewydd Bach, diolch i garreg goffa ar lawr y pentref.

BARTI DDU

TOP ↑

5. Y BRENIN ARTHUR

(Anhysbys)

Bedd Arthur, Carn Bica, Bryniau Preseli Cod Post SA66 7RY (1.5 MILLTIR I FFWRDD) CYFEIRNOD GRID: SN13053252. Map...
Mae Bedd Arthur, sy’n cynnwys 13 o feini hirion bychain ynghyd â dau neu dri o rai sydd wedi cwympo, yn safle difyr ar ben crib mynyddoedd y Preseli sy’n edrych dros frigiad Carn Menyn - a oedd o bosibl yn ffynhonnell ar gyfer rhai o’r cerrig gleision a ddefnyddiwyd yng Nghôr y Cewri. Yn ôl llên gwerin leol dyma orffwysfa Brenin Prydeinig chwedlonol Camlod, ac fe allai Bedd Arthur fod yn feingylch (heneb) hefyd, gan ei fod ar bwys y llwybr cynhanesiol a adwaenir fel yr Heol Aur, sy’n dilyn crib mynyddoedd y Preseli ac yn cysylltu nifer o hen safleoedd. Nid yw’r safle wedi cael ei gloddio ond mae rhywfaint o dystiolaeth bod siambr gladdu yn arfer bod yng nghanol y cylch o bosibl. Ai dyma orffwysfa’r Brenin Arthur?

Y BRENIN ARTHUR

TOP ↑