Rwyt ti yma Cartref Bwyd a Diod Llwybrau Beicio - Sir Gaerfyrddin

Mae morynion a mynaich hudol, ehedwraig enwog a dewin nodedig oll yn cael sylw ar daith gyfareddol o amgylch Sir Gâr. Mae'r daith Chwedlau hon yn dechrau yn y Bynea ger Llanelli ac yn gorffen yn Nhre-lech, ac yn cwmpasu Parc Arfordirol y Mileniwm, Parc Gwledig Pen-bre, Cydweli, Glanyfferi a Chaerfyrddin.

Beicio Sir Gaerfyrddin
Beicio Sir Gaerfyrddin

PELLTER

72.4km (os hoffech fynd i Ganolfan Bryn Myrddin - ychwanegwch 5.7km)

YR UCHAFBWYNTIAU

Parc Arfordirol y Mileniwm, Harbwr Porth Tywyn, Castell Cydweli, Llanismel, Castell Caerfyrddin, Derwen Myrddin, yr Amffitheatr, Priordy Caerfyrddin.

Y LLWYBR

  • Dilynwch Lwybr 4 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol, ewch tua'r gorllewin o Faes Parcio'r Bynea SS554984, beiciwch 4.8km ar y llwybr beicio pwrpasol, eithaf gwastad, rhwng Parc Arfordirol y Mileniwm a Chanolfan Gwlyptir Genedlaethol Cymru.
  • Anelwch at y Ganolfan Ddarganfod sydd 4.5km i ffwrdd, gan feicio o amgylch (a) Penrhyn Machynys a phasio Clwb Golff Penrhyn Machynys a gynlluniwyd gan Jack Nicklaus ac a adeiladwyd ar safle mynachdy o'r oesoedd canol - dywedir bod ysbrydion y mynaich yn crwydro'r ardal, ddydd a nos!
  • O'r Ganolfan Ddarganfod beiciwch am 6.9km i safle chwedlonol (b) Harbwr Porth Tywyn. Stopiwch i weld y gofeb i Amelia Earhart ar ochr ddwyreiniol yr harbwr.
  • Ewch ar hyd Llwybr 4 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol o amgylch harbwr y gorllewin (fe welwch ffatri Parsons Pickle - anelwch amdani - mae'r llwybr beicio yn mynd heibio iddi) i gyfeiriad Parc Gwledig Pen-bre. Rhyfeddwch at dywod euraid traeth ail hiraf Cymru, Cefn Sidan. Mae cyfleusterau hamdden y Parc Gwledig yn cynnwys llethr sgïo sych, llwybr tobogan, canolfan farchogaeth a llwybrau natur.
  • Gadewch y Parc Gwledig trwy'r brif fynedfa ac ewch tua'r A484 ar hyd Heol y Ffatri. Wrth yr A484 trowch i'r dde, yna i'r chwith eto wrth y ffens (ar y chwith, tua 30 metr) i ail-ymuno â Llwybr 4 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol i Gydweli (edrychwch am arwyddion glas y rhwydwaith beicio). Tua 8.3km i Gydweli o fan hyn.
  • Yn y pen draw bydd Llwybr 4 yn dod â chi'n ôl i'r A484 (croeswch y ffordd ac ail-ymunwch â'r llwybr beicio, CYMERWCH OFAL rhag y traffig), ewch yn eich blaen i gyfeiriad y gogledd ac i'r gylchfan, troi i'r chwith i Heol Pen-bre a mynd ymlaen i Gydweli.
  • Yn Stryd y Bont, Cydweli, croeswch y bont (dros afon Gwendraeth). Os trowch chi i'r dde, fe gyrhaeddwch (c) gastell chwedlonol Cydweli, neu fel arall ewch yn eich blaen i'r chwith i'ch safle chwedlonol nesaf (d) Llanismel.
  • Ewch ar hyd yr heol ddienw am 4.8km i Lanismel (mae ambell i lethr ar hyd y darn hwn), ac ar ôl tua 1.7km fe ddewch i gyffordd, a chymerwch y troad sydyn i'r chwith tua Glanyfferi. Ewch drwy bentref Glanyfferi ac ar y groesffordd gyntaf, ar ôl Glanyfferi, dilynwch yr arwydd am Gaerfyrddin, ar ôl tua 2.2km trowch i'r chwith (gan ddilyn arwyddion glas y rhwydwaith beicio) a chadwch ar y ffordd hon tuag at yr A484.
  • Dilynwch yr A484 am oddeutu 1km, a throwch i'r chwith oddi ar yr A484 i gyfeiriad Croesyceiliog (dilynwch yr arwydd).
  • Ewch yn eich blaen drwy Groesyceiliog tan ichi gyrraedd cylchfan, trowch i'r chwith (yn ôl ar yr A484).
  • Dilynwch yr arwyddion beicio glas a fydd yn eich cyfeirio i mewn i Gaerfyrddin. Croeswch yr A484 ar y groesfan gyntaf i gerddwyr. Gan fynd tua'r dref, ewch ar y llwybr o dan yr heol a chymryd y troad cyntaf i'r chwith wedi hynny. Dilynwch Heol Pen-sarn a throwch i'r chwith ychydig cyn y gylchfan nesaf, gan ddilyn yr arwyddion beicio glas a fydd yn eich cyfeirio tuag at yr orsaf reilffordd. Wrth yr heol sy'n arwain at yr orsaf, trowch i'r chwith ac ewch yn eich blaen dros Afon Tywi ar y bont feicio.
  • Croeswch yr A4242 a dilynwch Heol Las i mewn i'r dref. Trowch i'r dde ar y gornel ac ewch i'r castell (parth i gerddwyr). Gellir gweld (e) Derwen chwedlonol Myrddin yn yr un sgwâr â'r castell, yn Neuadd San Pedr.
  • I ddychwelyd i'r llwybr beicio ewch yn ôl ar hyd Heol Las i'r bont feicio, gan aros ar ochr ogleddol yr afon. Trowch i'r chwith wrth y bont feicio gan fynd ar hyd Y Cei i'r gyffordd wrth y bont fawr. Croeswch y gyffordd (mae'r traffig yn brysur yma felly GAN BWYLL) i Heol yr Hen Orsaf, gan droi i'r dde yn y pen draw i'r Rhodfa (dilynwch yr arwyddion beicio glas).
  • Wrth gyrraedd Hen Heol y Prior ewch i safle (f) Priordy Caerfyrddin ac ewch i gyfeiriad y gogledd i'r A484 (Heol y Prior) a throi i'r dde ar ben Hen Heol y Prior i ymweld â'r (g) Amffitheatr Rufeinig chwedlonol.
  • Dychwelwch i'r llwybr beicio ac ewch ymlaen am tua 1.1km a throi i'r chwith i Heol Abergwili.
  • Dargyfeiriwch i (h) Fryn Myrddin drwy droi i'r dde ar Heol Abergwili, dilyn y Stryd Fawr i'r gylchfan, cymryd yr ail droad i'r chwith ac yna troi i'r dde yn syth. Ewch yn eich blaen am 1.4km i Canolfan Bryn Myrddin. Er mwyn ailymuno â Llwybr Beicio 47 ewch yn ôl i Heol Abergwili.
  • Parhewch i'r gorllewin ar Heol Abergwili, trowch i'r dde wrth y gylchfan i Heol Bronwydd yna i'r dde ar y gylchfan nesaf i Heol Dolgwili. Wedyn cymryd y chwith cyntaf wrth y gylchfan nesaf a chymryd yr ail droad i'r chwith wrth y gyffordd.
  • Ewch ar hyd ffordd ddienw am 2.8km ac ailymunwch â'r A484 (mae rhiw fer ar y darn hwn). Trowch i'r dde ac ewch ar yr A484 am 200m a throwch i'r chwith i ffordd ddienw, gan ddilyn yr arwyddion beicio glas.
  • Ewch yn eich blaen gan ddilyn yr arwyddion beicio glas am 19.1km i bentref Tre-lech (darn sydd â rhagor o fryniau) lle mae Llwybr Beicio'r Chwedlau - Sir Gaerfyrddin yn dod i ben.

MANNAU CHWEDLONOL O DDIDDORDEB

a) Penrhyn Machynys

Penrhyn Machynys

Dywedir bod ysbryd y Ladi Wen yn crwydro'r cefn gwlad cyfagos, wedi'i chondemnio i grwydro'r cyffiniau tan i'w chorff gael ei ddarganfod... Dywed rhai mai ysbryd un o bobl y bwyelli bach yw hi a fu'n defnyddio lanternau i ddenu llongau i'w tranc ar y tywod er mwyn ysbeilio'r cargo; dywed eraill mai morwyn yw hi a fu'n gweithio mewn plasty lleol oedd â thwneli cudd a ddefnyddid gan longddryllwyr i gadw a chludo'r nwyddau a ysbeiliwyd, ac iddi ddod i'w diwedd trwy law llofrudd.

b) Harbwr Porth Tywyn

Harbwr Porth Tywyn

Gochelwch rhag pobl arfordir Porth Tywyn - gwŷr y bwyelli bach. Drwy chwifio lanternau a chynnau tân liw nos ar y twyni, denodd y llongddryllwyr sawl llong ddiniwed i'w thranc ar dwyni Bae Caerfyrddin a dyfroedd bas Cefn Sidan. Llwyddodd ambell i longwr i osgoi boddi yn y bae ond neidiwyd arnyn nhw gan y dihirod. Nid oedd cargo gwerthfawr y llongau'n ddigon i'r dihirod hyn - roedden nhw'n torri pennau, dwylo a bysedd y dioddefwyr ymaith er mwyn cael gafael ar eu gemwaith. O bryd i'w gilydd, fe glywir y trueiniaid yn dolefain o hyd ar awel y môr.... Ymwelydd sy'n haeddu mwy o glod na'r llongddryllwyr yw'r 'Aviatrix' Amelia Earhart, a gyrhaeddodd y Pwll, ger Porth Tywyn ar Fehefin 18, 1928, ar ôl hedfan o Newfoundland ar fwrdd awyren Fokker F7 gyda Wilmer 'Bill' Stultz a Louis 'Slim' Gordon. Southampton oedd y nod ond bu'n rhaid iddyn nhw lanio'n gynnar o achos niwl trwchus. Er nad Amelia oedd wrth y llyw, drwy gwblhau'r daith hon hi oedd y fenyw gyntaf i groesi'r Iwerydd mewn awyren. Yn nodedig iawn, yn 1932 hi oedd y fenyw gyntaf i hedfan ar draws yr Iwerydd ar ei phen ei hun. Mae plac i goffáu'r digwyddiad wrth Harbwr Porth Tywyn ac mae cofgolofn yn y dref sy'n nodi hanes glaniad Amelia Earhart.

c) Castell Cydweli a'r Gath Ddu

Castell Cydweli a'r Gath Ddu

Mae Castell Cydweli a'r cyffiniau yn gysylltiedig ag amryw o chwedlau diddorol, ac mae cyflwr y castell hwn gyda'r gorau yn ne Cymru ac mae'n cynnig tyrrau, ystafelloedd, a choridorau cyfan i ymlwybro trwyddynt. Nid yw'n hysbys beth yw tarddiad y gath ddu sydd ar arwyddlun tref Cydweli. Yn ôl rhai y gath oedd yr anifail cyntaf i ymddangos ar ôl i bla ddiffeithio Cydweli yng nghanol y 14eg ganrif pan laddwyd rhwng 30% ac 80% o boblogaeth Cymru. Mae'r gath ddu yn ymddangos ar arwyddion ffyrdd y dref.

I'r gogledd o dref Cydweli mae cae lle lladdwyd menyw arwrol mewn brwydr enwog. Saif carreg goffa fawr i Gwenllian y tu allan i borth castell Cydweli. Yn 1136, pan oedd ei gŵr Gruffydd ap Rhys, Tywysog Deheubarth, i ffwrdd fe gynullodd Gwenllian ei byddin ei hun ac aeth ar gefn ei cheffyl i gwrdd â'r gelyn Normanaidd. Daeth y frwydr i ben pan ddaliwyd Gwenllian a chafodd ei phen ei dorri ymaith. Tarddodd ffynnon ar yr union fan lle y'i lladdwyd a Maes Gwenllian yw enw'r safle byth ers hynny, er teyrnged iddi. Gallwch ymweld â'r cae drwy fynd i gyfeirnod grid 42520883 (fe'i nodir ar fap yr Arolwg Ordnans). Efallai y gwelwch ei hysbryd yn crwydro'r maes...

d) Llanismel

Llanismel

Yn 1607 cafodd pentref Llanismel, sydd 4.5km i'r gorllewin o Gydweli, ei ysgubo ymaith gan tswnami fawr ond yn rhyfeddol gadawyd ei heglwys hynafol o'r ddeuddegfed ganrif yn gyfan. Ewch am dro ychydig i'r dwyrain o'r eglwys ar hyd y traeth ac fe welwch chi weddillion tai'r pentref yn ymwthio mas o'r twyni tywod.

e) Derwen Myrddin

Derwen Myrddin

Dywed rhai mai proffwydoliaeth y dewin a achosodd y llifogydd a darodd Caerfyrddin ym mis Hydref 1987. Dywedir mai'r dderwen a safai yn Heol y Prior tan 1978 oedd yr union goeden yr eisteddai Myrddin oddi tani. Yn ôl proffwydoliaeth Myrddin byddai tref Caerfyrddin yn boddi pe byddai'r dderwen hon yn cael ei thorri: "Y Gaerfawr, ti gei oer fore Daear a'th lwnc, daw dŵr i'th le. Llanllwch fu, Caerfyrddin sudd, Abergwili saif." Erbyn diwedd yr 1970au roedd yr hen goeden yn marw ac yn beryglus, a gwnaed penderfyniad - yn groes i farn y cyhoedd - i'w dymchwel. Naw mlynedd yn ddiweddarach, pan darodd y llifogydd gan achosi marwolaeth pedwar o bobl pan ddisgynnodd trên i afon Tywi ger Llandeilo, fe gofiwyd am broffwydoliaeth Myrddin. Gallwch weld darnau o'r dderwen yn yr Amgueddfa Sirol yn Abergwili ac yn Neuadd San Pedr ym Maes Nott yng Nghaerfyrddin. sirgar.llyw.cymru

f) Priordy Caerfyrddin - Llyfr Du Caerfyrddin

Credir bod Llyfr Du Caerfyrddin wedi cael ei ysgrifennu oddeutu 1250 gan fynach ym mhriordy Sant Ioan yng Nghaerfyrddin, ger safle derwen Myrddin, a dywedir bod mam Myrddin wedi bod yn lleian yno. Enwyd y llyfr ar ôl ei glawr tywyll ac mae'n nodi straeon hanesyddol a cherddi, gan gynnwys rhai ynghylch brenhinoedd a rhyfeloedd y Cymry. Mae'r llyfr yn cynnwys cyfeiriadau lu at Myrddin, gan gynnwys un darn nodedig sy'n cofnodi sgwrs rhwng Myrddin a'r bardd Taliesin ynghylch hanes Cymru. Mae'r llyfr yn cael ei gadw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth. Mae'r Priordy ar gof a chadw mewn enwau megis Heol y Prior, ond gellir ymweld â safle'r priordy hefyd, sy'n barc bellach, a cheir olion porth y priordy yn yr adeiladau modern a welir gerllaw.

g) Myrddin - Amffitheatr Caerfyrddin

Cysylltir yr Amffitheatr Rufeinig yng Nghaerfyrddin ag un o'r cyfeiriadau cyntaf at Myrddin. Roedd bachgen bach o'r enw Emrys yn chwarae yma pan ddechreuodd llanciau lleol ei figitian. Daeth milwyr i ymyrryd ac aed ag Emrys, y gwelwyd yn fuan ei fod yn blentyn doeth, i weld Brenin y Brythoniaid, Gwrtheyrn, yn ei fryngaer a saif heddiw ger Llandysul (cyfeirnod grid 43309 40307). Gallwch weld Craig Gwrtheyrn o'r B4336 ar y ffordd o Landysul i Lanfihangel ar Arth. Cafodd Emrys ei ail-enwi'n Myrddin (sy'n golygu dyn doeth), a rhoddodd wybod i'r Brenin fod waliau ei gaer yn disgyn yn aml am fod dwy ddraig - un goch ac un wen - yn ymladd mewn ogof o dan y gaer. Rhyddhaodd Myrddin y ddwy ddraig, gan roi diwedd ar ansefydlogrwydd y tir. Brwydrodd y creaduriaid yn eu blaenau tan i'r un goch ladd yr un wen.

h) Bryn Myrddin

Bryn Myrddin

Efallai fod Myrddin wedi hen adael y tir, ond yn ôl y chwedl fe fydd yn dychwelyd pan fydd ar genedl y Cymry ei angen. Dywedir mai ei orffwysfan olaf oedd ogof o dan Fryn Myrddin, 3.5km o Gaerfyrddin. Yn ôl rhai storïau aeth yno'n hen ddyn o'i wirfodd i farw; yn ôl storïau eraill cafodd ei garcharu gan ei gariad o ddewines ac mae'n fyw o hyd - clywir ei ddolefain ar nosweithiau stormus medd rhai trigolion lleol. Yn ogystal, safai bryngaer fawreddog o'r Oes Haearn, a fu'n gartref i gymuned oddeutu 400CC, ar ben Bryn Myrddin. Mae gan yr hen fryngaer furiau helaeth a ffosydd sylweddol a gall y cyhoedd ymweld â'r safle. Wrth droed y bryn, gwyliwch wartheg yn cael eu godro a defaid o frîd prin Jacob, a rhowch gip ar arddangosfeydd y ganolfan ymwelwyr yn fferm Bryn Myrddin sy'n rhoi hanes yr ardal a'i chwedlau. merlinshill.com

Map o Prydain Logo Llywodraeth Cymru

Gwybodaeth teithio...

TRÊN

Tren

Ceir trenau rheolaidd i Abertawe, Castell-nedd ac Abergwaun o orsafoedd Llanelli a Chaerfyrddin. Cofiwch mai dim ond hyn a hyn o le i feiciau sydd ar drenau.
arrivatrains­wales.co.uk

GWERSYLLA

Camping at Pembrey Country Park

Parc Gwledig Pen-bre. 01554 742424.
parc­gwledigpenbre.cymru

LLOGI A THRWSIO BEICIAU

LLOGI A THRWSIO BEICIAU

LLETY

LLETY

MAPIAU A ARGYMHELLIR

MAPIAU A ARGYMHELLIR