Rwyt ti yma Cartref Bwyd a Diod Llwybrau Beicio - Sir Benfro

Mae'r llwybr beicio yn cychwyn yn Sir Gaerfyrddin, nid nepell o'r ffin â Sir Benfro, ger pentref Tre-lech. Mae'r llwybr yn gadael yr A478 tuag at Fynachlog-ddu a Rosebush, cyn troi tua Tufton, Cas-mael, a Llanychâr, gan orffen yn Abergwaun - calon Gogledd Sir Benfro.

Beicio Sir Benfro
Beicio Sir Benfro

PELLTER

48km.

YR UCHAFBWYNTIAU

Annwn (Yr Isfyd Celtaidd), cylch meini Gors Fawr, carreg goffa Waldo Williams, Bedd Arthur, Barti Ddu - y Môr-leidr Cymreig, ac Abergwaun a oedd yn ganolog i hanes 'Goresgyniad Olaf Prydain'.

Y LLWYBR

  • O bentref Tre-lech, trowch oddi ar y B4299. Beiciwch i fyny'r rhiw am 600 metr cyn troi i'r dde wrth arwydd 'Dinas'. Ewch ymlaen am 3km gan gyrraedd y ffin (dyma lle mae'r llwybr yn croesi i Sir Benfro ond gwell yw dechrau yn Nhre-lech). Ymhen 3km arall fe ddewch i bentref Tegryn, lle mae siop fach a thafarn y 'Butchers' - man da i gael rhywbeth i'w fwyta neu yfed.
  • Ar ôl torri syched, beiciwch i'r un cyfeiriad tuag at Grymych am 2.7km hyd nes y byddwch yn dod i gyffordd - trowch i'r dde ac ewch ymlaen am 4km i gyrraedd Rhaeadr Ffynone. Yn ôl y chwedl dyma'r fynedfa i (a) Annwn, Yr Isfyd Celtaidd.
  • Dychwelwch i'r gyffordd flaenorol a mynd ymlaen am 3km arall hyd at yr A478. Trowch i'r chwith i feicio drwy bentref mawr Crymych, sy'n sefyll ar yr hen heol dyrpeg rhwng Dinbych-y-pysgod ac Aberteifi. Mae llawer o gyfleusterau yn y pentref y gallwch fanteisio arnynt. Bydd gweddill y daith yn wledig iawn felly gwnewch y mwyaf o'r cyfle hwn. Ceir siop wersylla a gêr awyr agored, tafarn, dau gaffi, siop pysgod a sglodion ac archfarchnad fach, sy'n fan delfrydol i brynu byrbrydau a danteithion at eich taith.
  • Ar ôl crwydro Crymych, wrth adael y pentref trowch i'r dde oddi ar yr A478 tuag at bentref Mynachlog-ddu (5km), sy'n nodedig am ei olion cynhanesyddol.
  • Bellach mae'r ffordd yn dilyn cyrion deheuol Bryniau'r Preseli. Ar y llaw dde mae Foel Drygarn, bryngaer o ddiwedd yr Oes Efydd ac arni dair carn fawr.
  • Cadwch i'r dde wrth fynd drwy Fynachlog-ddu, ac wrth adael y pentref anwybyddwch arwyddbost y Llwybr Celtaidd am y tro ac ewch yn syth ymlaen am oddeutu 1km i gyrraedd eich man chwedlonol nesaf (b) cylch meini Gors Fawr.
  • Ar ôl tynnu rhai lluniau trawiadol o bosib, dychwelwch i'r gyffordd a throwch i'r chwith i deithio ar hyd ffordd hyfryd sy'n croesi rhostir agored. Ar ôl 500 metr byddwch yn cyrraedd dwy garreg goffa, un ohonynt yn gofeb o'r Garreg Las a'r llall yn garreg ac arni blac i goffáu (c) Waldo Williams Dyma'r man chwedlonol nesaf.
  • Mae'r daith yn parhau ar hyd y ffordd hon am 1.3km hyd nes y byddwch yn cyrraedd mynyddir agored. I fyny fry ar grib y Preseli y mae'r man chwedlonol nesaf sef cylch meini (d) Bedd Arthur. Os ydych am grwydro'r Preseli, mae hwn yn lle da i adael y beiciau a mynd tua'r mynydd ar droed. Ceir llwybr hwylus i groesi'r mynydd ac mae'r golygfeydd yn ogoneddus. Dylai gymryd awr neu ddwy i gerdded 6km gan ddringo 150 metr.
  • Cadwch at y ffordd wledig am 6.5km hyd nes dod i'r B4313. Mae'r llwybr beicio yn troi i'r chwith yma ond os ewch chi i'r cyfeiriad arall am 800 metr fe ddewch chi i bentref Rosebush. Mae gan Rosebush gaffi a thafarn anarferol iawn sef Tafarn Sinc. Yn wreiddiol, codwyd y dafarn ym mhen pellaf Rheilffordd Rosebush i geisio cael pobl i ddefnyddio'r rheilffordd. Hefyd arferai chwarelwyr a weithiai gerllaw 'wlychu'r whît' yn y dafarn hon. Bellach mae'n dafarn hynod a chysurus ac yn lle gwych i gael hoe fach. Mae safle carafannau a gwersylla yno â phodiau pren. Dyma gartref Caws Pant Mawr a Bragdy Seren yn ogystal. Ar y bryn uwchlaw Rosebush mae gan Barc Coedwig Pantmaenog 12km o lwybrau marchogaeth a beicio mynydd. Mae'r llwybrau'n addas i bob oedran. Mae'r traciau'n llydan, yn agored, yn hawdd i'w dilyn ac yn addas i ddechreuwyr. pembrokeshirecoast.org.uk
  • Ar ôl mwynhau yn Rosebush, ewch yn ôl yr un ffordd am tua 1.4km a throwch i'r dde a mynd ar hyd ffordd gul tuag at Tufton. Trowch i'r chwith ar ôl 3.5km, ychydig cyn i'r ffordd ymuno â'r B4329. Wedyn ar ôl 500 metr, trowch i'r dde i bentref bach Tufton. Mae tafarn yno, sef y Tufton Arms, ond mae'r amserau agor yn gallu amrywio.
  • Croeswch y B4329 a mynd tuag at Gas--mael, sydd 4.2km o Tufton. Mae tafarn glyd y Drovers Arms yng Nghas-mael yn enwog am gynnal digwyddiadau cerddoriaeth fyw.
  • Oddi yma gallwch adael y llwybr am 2km a mynd o Gas-mael i bentref Casnewydd Bach i weld man geni'r môr-leidr mwyaf llwyddiannus erioed, (e) Barti Ddu.
  • Os nad ydych am fynd i Gasnewydd Bach, trowch i'r dde wrth y gyffordd yng Nghas-mael (nid tuag at y Drovers Arms) a dilyn yr arwyddion i Lanychâr a Maenclochog. Yn union ar ôl gadael y pentref, trowch i'r chwith am Lanychâr ac mae'r ffordd yn dringo'n raddol o amgylch Mynydd Cilciffeth lle ceir golygfeydd godidog o Abergwaun a'r môr.
  • Ar ôl 6km, byddwch yn ymuno â'r B4313 ac ymhen 2.2km mae pentref hyfryd Llanychâr. Yma mae'r 'Bridge End Inn'; sy'n lle gwych i gael bwyd bridgendinn.com
  • Cadwch at y B4313 am 2.5km i gyrraedd Abergwaun, sef diwedd y llwybr. Mae'r dref yn ganolog i hanes rhyfeddol y chwedl olaf (f) Goresgyniad Olaf Prydain 1797.

MANNAU CHWEDLONOL O DDIDDORDEB

a) Annwn, Yr Isfyd Celtaidd

Yn âl y Mabinogion (casgliad o fythau a chwedlau Cymreig), dyma'r fynedfa i'r Isfyd Celtaidd. sarahwoodbury.com

b) Cylch Meini Gors Fawr

Saif y cylch meini bach hwn, sy'n dyddio o'r Oes Neolithig neu'r Oes Efydd gynnar, yng nghysgod Bryniau'r Preseli. Roedd yr ardal gyfan yn bwysig tu hwnt yn y cyfnod Celtaidd, o achos ei chysylltiad â Chôr y Cewri. Sir Benfro oedd y brif groesfan i Iwerddon o Brydain (fe'i disgrifiwyd fel traffordd Neolithig), ac mae henebion/cromlechi niferus yr ardal yn tystio i fodolaeth poblogaeth sylweddol yma ar y pryd. 2 filltir o'r Gors Fawr mae Carn Menyn, a'r gred yw mai oddi yno y cludwyd Cerrig Glas enwog Côr y Cewri. Yn ddiddorol ddigon, dim ond un 'garreg las' sydd ymhlith 16 maen y Gors Fawr. Meini dyfod yw'r cerrig eraill (meini mawr a gludwyd gan rewlifau yn ystod yr oes iâ ddiwethaf). stone-circles.org.uk

c) Waldo Willliams

Waldo Willliams

Waldo oedd un o feirdd mwyaf yr iaith Gymraeg yn yr 20fed ganrif. Hefyd roedd yn heddychwr Cristnogol, yn ymgyrchydd gwrth-ryfel, ac yn Gymro cenedlaetholgar. Treuliodd Waldo ei ieuenctid ym Mynachlog-ddu lle roedd ei dad yn athro yn yr ysgol leol. Gwelodd y Gymraeg fel perl gloyw yn yr anfeidrol amser. Saif carreg â phlac er cof amdano ar y rhos ar gyrion y pentref. waldowilliams.com

d) Bedd Arthur

Bedd Arthur

Mae Bedd Arthur ar grib y Preseli yn cynnwys 13 o feini hir bychain hynod, ynghyd â dau neu dri sydd wedi cwympo. Honnir mai'r lle hwn yw gorffwysfan olaf y brenin chwedlonol, ac mae'n bosibl ei fod yn hengor (cofeb gynhanesyddol) hefyd gan ei fod yn ymyl yr hen lwybr hynafol o Garn Meini, sy'n llwybr cyhoeddus bellach. Nid yw'r safle wedi cael ei gloddio, ond mae rhywfaint o dystiolaeth y bu ar un adeg siambr gladdu yng nghanol y cylch meini.... Dyma fan digynnwrf, ac mae'r daith yma ar droed yn werth ei gwneud. megalithic.co.uk

e) Barti Ddu

Barti Ddu

Bartholomew Roberts, neu Barti Ddu fel y câi ei adnabod, oedd brenin y môr-ladron. Cipiodd fwy na 470 o longau oddi ar arfordiroedd America a Gorllewin Affrica rhwng 1719 ac 1722. Cymaint oedd ei lwyddiant, cafodd ei grybwyll yn stori enwog Robert Louis Stevenson am fôr-ladron sef 'Treasure Island'. Hefyd mae'n debyg mai ef oedd y môr-leidr cyntaf i hedfan 'y benglog a'r esgyrn croes' ac nad oedd yn yfed diferyn! Mae carreg a phlac coffa Barti Ddu i'w gweld yn ei bentref genedigol, Casnewydd Bach, sydd ddim ymhell o Abergwaun. wikipedia.org

f) Goresgyniad Olaf Prydain

Sir Benfro

Yn Abergwaun y bu'r goresgyniad olaf ar dir mawr Prydain. Yn 1797, yn ystod Rhyfeloedd Chwyldro Ffrainc, glaniodd byddin o 1,400 o filwyr Ffrengig yng Ngharregwastad, ger Abergwaun. Bwriad y Ffrancwyr oedd sbarduno gwrthryfel gan y Cymry yn erbyn y Saeson, ond nid oeddent wedi disgwyl y byddai pobl Sir Benfro mor deyrngar i'r brenin. Llofnododd y Ffrancwyr gytundeb ildio yn nhafarn y Royal Oak ar Sgwâr Abergwaun rai dyddiau'n ddiweddarach. Adroddir yr hanes ar ffurf tapestri 30 metr a grëwyd yn 1997 i ddynodi dau gan mlynedd ers y digwyddiad, ac mae modd ei weld yn Neuadd y Dref yn Abergwaun. fishguardonline.com

Map o Prydain Logo Llywodraeth Cymru

Gwybodaeth teithio...

TRÊN

TREN

Mae trenau'n rhedeg yn rheolaidd o Orsaf Abergwaun ger porthladd y fferi. Ar hyn o bryd mae 7 yn rhedeg ar ddiwrnodau'r wythnos ac ar ddydd Sadwrn, a dau ar ddydd Sul. Gallant fynd â chi'n ôl i Gaerfyrddin, Llanelli, Abertawe neu Gastell-nedd. Cofiwch mai dim ond hyn a hyn o le i feiciau sydd ar drenau.
arrivatrains­wales.co.uk

LLOGI A THRWSIO BEICIAU

LLOGI A THRWSIO BEICIAU
  • Luna Cycles
    6 Y Stryd Fawr, Abergwaun, Sir Benfro, SA65 9HH. Tel: 01348 875400. Oriau agor: 10am-5pm, Llun-Sad.
    facebook.com

DEWISIADAU LLETY

DEWISIADAU LLETY

MAP A ARGYMHELLIR

MAP A ARGYMHELLIR